Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 9 Gorffennaf 2018
Amser:
14.01 -
16.42
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4752
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Vikki Howells AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Lynne Hamilton, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Sian Harrop-Griffiths, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Tracy Myhill, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Bob Chadwick, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Len Richards, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas CBE - Archwilydd Cyffredinol Cymru Mark Jeffs Dave Thomas |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC, Rhianon Passmore AC ac Adam Price AC. Nid oedd dirprwyon yn bresennol ar eu rhan.
2.1 Nodwyd y papurau.
2.2 Cytunodd y Cadeirydd i ymateb i Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad ynghylch yr ymrwymiad y cytunwyd arno y byddent yn cyhoeddi manylion y cymhorthdal fesul teithiwr bob blwyddyn ochr yn ochr â niferoedd y teithwyr.
3.1 Trafododd yr Aelodau yr ymateb, gan gytuno y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion.
4.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Tracy Myhill, Prif Weithredwr;
Sian Harrop-Griffiths, Cyfarwyddwr Strategaeth; a Lynne Hamilton, Cyfarwyddwr Cyllid o Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg fel rhan o'r ymchwiliad i weithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.
4.2 Cytunodd Tracy Myhill i:
· siarad â Chadeirydd y Bwrdd ynghylch y pecyn taliadau a gafodd y cyn Brif Weithredwr pan adawodd y Bwrdd Iechyd a rhoi gwybod i'r Cadeirydd am y drafodaeth hon; a
· rhannu rhai o gynlluniau digidol y Bwrdd Iechyd â'r Pwyllgor.
5.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Len Richards, Prif Weithredwr, a Bob Chadwick, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel rhan o'r ymchwiliad i weithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.
5.2 Cytunodd Len Richards i gadarnhau a ddarparodd y Bwrdd Iechyd ddatganiad o effaith y diffoddiad ym mis Ionawr 2018 ac i roi gwybod i'r Pwyllgor am hyn mewn nodyn.
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.